Sut i gyrraedd Maes Awyr Môn gyda char
Os ydych yn teithio i'r maes awyr gyda char dilynwch yr A55 hyd at gyffordd 4, ac yna arwyddion am Lu Awyr y Fali. Gyrrwch trwy bentref Llanfihangel yn Nhowyn (tua hanner milltir). Byddwch yn gyrru dros bont fechan dros y rheilffordd. Cymerwch y troad nesa i'r chwith a gyrrwch yn syth ymlaen i fynedfa'r maes awyr.
Sut i adael Maes Awyr Môn gyda char
Gadewch y maes parcio a gyrrwch heibio mynedfa Llu Awyr y Fali ar y dde nes cyrraedd y lôn fawr. Trowch i'r dde a gyrrwch dros bont y rheilffordd. Gyrrwch trwy bentref Llanfihangel yn Nhowyn (tua hanner milltir) ac yna at gylchfan sydd yn eich arwain i'r A55.
I deithio mewn cyfeiriad gorllewinol tua Chaergybi - cymerwch yr allanfa i'r chwith o'r gylchfan sydd wedi'i arwyddo'n glir - A55 Caergybi/Holyhead.
I deithio i gyfeiriad dwyreiniol tua Llangefni a Phorthaethwy, cymerwch yr allanfa o'r gylchfan sy'n eich tywys dros y brif ffordd A55 tuag at ail gylchfan. Cymerwch yr allanfa sydd wedi'i arwyddo yn glir - A55 Bangor.
Côd Post ar gyfer satnav - LL65 3NX

Cyswllt i safle gwe multimap yn dangos lleoliad Maes Awyr Môn
Am wybodaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus, tacsis a llogi car, gweler y tudalennau perthnasol yn y llyw ar y chwith.