Mae'r gwasanaeth rhwng Maes Awyr Môn ac Chaerdydd yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy system o Ddyletswydd Gwasanaeth Cyhoeddus (PSO).
Mae PSO yn galluogi'r Llywodraeth i roi cymhorthdal i gynnal gwasanaeth trafnidiaeth na fyddai'n llwyddo'n fasnachol mewn amgylchiadau arferol.
Mae'r PSO yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, sy'n cynnwys manylion fel maint awyren, amserlen ac uchafswm pris tocyn.
Penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi'r fenter ym Môn yn 2004 wedi i ymgynghoriad ddarganfod bod galw am wasanaeth or fath, ac mai'r llwybr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd fyddai'r mwyaf ymarferol. Bydd y gwasanaeth yn derbyn arian cyhoeddus am dair blynedd ac wedi cychwyn ar yr 8fed o Fai.
Am wybodaeth bellach ar y PSO ewch i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.