Polisi preifatrwydd

Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynom i weithredu mewn ffordd gyfrifol, pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth amdanoch i ni.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd yr holl ddata a gyflwynir gan ymwelwyr i'r wefan hon yn cael ei brosesu yn unol ag egwyddorion Deddf Gwarchod Data 1998. Bydd gwybodaeth a gesglir gan Gyngor Sir Ynys Môn yn cael ei chadw a'i phrosesu mewn cronfeydd data dan berchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn yn unig.

Cesglir gwybodaeth bersonol gan Gyngor Sir Ynys Môn gan ymwelwyr i'r safle hwn. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymateb i ymholiadau ac i fonitro defnydd o'r safle. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth fydd yn cael ei ddefnyddio i adnabod unigolion. Mae gwybodaeth o'r fath yn hollol anhysbys ac yn cael ei gadw dros dro. Wrth ddanfon eich gwybodaeth rydych yn cytuno i'r wybodaeth gael ei ddefnyddio yn y ffurf a ddisgrifir uchod. Ble mae data personol yn cael ei geisio drwy lenwi ffurflen ar linell, bydd y data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas a eglurir yn y ffurflen.

Cysylltiadau allanol

Gallai ein gwefannau ddarparu cysylltiadau i wefannau eraill. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hyn, rydym yn eich annog i arolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hyn.

 

Archebwch eich copi o Llawlyfr Teithio 2007 Ynys Môn am ddim
 
Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057

Cysylltu Cymru