Maes parcio - Maes Awyr Môn
Maes parcio

Mae cyfleusterau parcio yn y maes awyr gyda llefydd wedi eu neilltuo ar gyfer teithwyr anabl.

Mae costau parcio fel a ganlyn:

  • I fyny i 30 munud - 50c
  • I fyny i 3 awr - £2
  • I fyny i 24 awr - £5

Gellir talu am barcio wrth beiriant tocynnau ac ar hyn o bryd nid yw'n bosib trefnu lle parcio ymlaen llaw. Mae'r maes parcio o fewn pellter cerdded agos (tua 150m) i adeilad y maes awyr. Nid oes troliau bagiau ar gael.

Mae'r maes parcio yn agored rhwng 07:10 a 10:30 a 15:00 a 18:30 ar Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 07:10 a 10:30 a 14:30 a 18:00 ar Ddydd Gwener. Nid oes mynediad i'r maes parcio tu allan i'r oriau hyn o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Bydd y maes parcio ar gau ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc.

 

 
Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057

Cysylltu Cymru