Ateb eich cwestiynau

Sut allai gael gwaith yn y maes awyr?

Operon y contractwr sy'n rheoli'r safle sy'n gyfrifol am gyflogi staff.

A yw hi'n bosib hedfan i lefydd eraill heblaw Caerdydd?

Dim ar hyn o bryd ond mae'r Cyngor Sir yn marchnata'r maes awyr i gwmnïau awyrennau i geisio ehangu'r gwasanaeth.

Faint o'r gloch mae'r awyrennau yn hedfan?

Mae gwasanaeth bore a phrynhawn yn y ddau gyfeiriad. Gweler tudalen "Prynu tocyn" am fwy o fanylion.

Pa mor hir yw'r daith?

Oddeutu awr.

Beth yw pris y tocyn?

Uchafswm o £50 am siwrne un ffordd (heb gynnwys treth maes awyr). Mae'n bosib y bydd y pris yn gostwng os ydych yn bwcio ymlaen llaw.

Oes maes parcio ar y safle?

Mae maes parcio ar y safle a mae cost am adael eich car. Gweler tudalen "Maes parcio" am fwy o fanylion.

Ydi'n bosib llogi car yno?

Mae'r Cyngor Sir yn edyrch i mewn i'r posibilrwydd o gynnwys cyfleusterau llogi car yn y maes awyr.

Fyddai'n gallu prynu bwyd a diod yn yn maes awyr?

Mae peiriannau yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar gael.

Fyddai'n gallu defnyddio fy ffôn symudol a chysylltu â'r wê?

Mae cyfleusterau band eang WiFi ar gael yn adeilad y maes awyr yn rhad ag am ddim. Cewch ddefnyddio eich ffôn symudol a bydd ffôn cyhoeddus yn yr adeilad hefyd.

Oes gwestai yn agos i'r maes awyr?

Oes. Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r canolfannau croeso:

Caergybi - 01407 762 622
Llanfairpwll - 01248 713177

Neu ewch i wefan dwristiaeth Ynys Môn: www.ynysoddewis.com

 

Archebwch eich copi o Llawlyfr Teithio 2007 Ynys Môn am ddim
 
Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057

Cysylltu Cymru