Creu linc i'r safle

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gyd-gysylltu gyda ni a drwy lincio i'r safle rydych yn cytuno i'n termau ac amodau.

Os byddwch chi'n dymuno defnyddio testun fel linc i safle gwe Maes Awyr Môn, dylech ddisgrifio'r wefan fel hyn:

Maes Awyr Môn - porth i deithwyr busnes a hamdden i ogledd orllewin Cymru a'r holl adnoddau a chyfleusterau sydd gan yr ardal i'w cynnig.

 

Defnyddio graffigau ar gyfer linc

Yn ogystal â'r testun uchod, fe allwch chi ddefnyddio'r logo swyddogol fel linc gweledol i safle gwe Maes Awyr Môn.

Am gopi swyddogol o'r graffeg cysylltwch â'n Tîm Graffeg.

ffôn: (01248) 752485

ebost: rsepl@ynysmon.gov.uk

 

Perthynas â safle gwe Maes Awyr Môn

Ni ddylech geisio cysylltu gyda safle gwe Maes Awyr Môn â'ch safle neu gydag unrhyw gynnwys nad yw'n perthyn i safle gwe Maes Awyr Môn. Ni ddylech chwaith honni bod safle gwe Maes Awyr Môn yn rhoi sêl bendith i chi nac yn eich cymeradwyo chi, eich gwefan nac unrhyw gynnyrch neu gynnwys nad yw'n perthyn i safle gwe Maes Awyr Môn.

 

Fframio a chyd-destun cynnwys safle gwe Maes Awyr Môn

Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Rhaid llwytho tudalennau i ffenestr lawn y defnyddiwr. Ni ddylech chi osod unrhyw graffigau, na chwarae deunydd sain, dros gynnwys safle gwe Maes Awyr Môn, na chaniatáu i ffenestr bowld ymddangos ar yr un pryd â chynnwys safle gwe Maes Awyr Môn.

 

Dileu linc

Os byddwn ni'n cysylltu â chi i ddileu eich linc i safle gwe Maes Awyr Môn, rhaid i chi wneud hynny ar unwaith.

 

Mwy o wybodaeth am greu linc

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am greu linc i safle gwe Maes Awyr Môn, cysylltwch â ni drwy webmaster@ynysmon.gov.uk

 

Archebwch eich copi o Llawlyfr Teithio 2007 Ynys Môn am ddim
 
Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057

Cysylltu Cymru