Cyngor Sir Ynys Môn yw perchennog ac sy'n gyfrifol am redeg Maes Awyr Môn. Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu'r gwasanaeth rhwng Caerdydd ag Ynys Môn a chwmni o'r enw Operon sydd wedi ennill y cytundeb i redeg y safle o ddydd i ddydd.
Gweithredwr y daith yw Manx2 o Ynys Manaw gan ddefnyddio Dornier 228, 19 sedd. Gellir prynu tocyn ar-linell ar www.manx2.com
Europa sydd yn gyfrifol am bob agwedd o redeg y maes awyr, o ddelio â bagiau teithwyr i lanhau a chynnal a chadw'r safle.
Y Llu Awyr Brenhinol (RAF) sy'n gyfrifol am reoli traffic awyr, gyda chwmni Babcock dan gytundeb i'r RAF yn gyfrifol am y gwasanaeth tân ac ar y llain lanio.
Mae'r holl bartneriaid yn y fenter wedi ymroddi i ddarparu'r gwasanaeth o'r safon uchaf i deithwyr rhwng Môn a Chaerdydd.